Thursday 14 October 2010

02/10/10 Pete Lawrie, Lauren Pritchard, Tinashe : Buffalo Bar, Caerdydd

Island Life yn cyflwyno
Pete Lawrie, Lauren Pritchard, Tinashe
Buffalo Bar
02/10/10

Rhoiwyd y noswaith yma ymlaen gan Island Life, sef adran hyrwyddo o Island Records - ac yn felly, roedd y bandiau i gyd yn gweithio gyda'r label. Yn ôl y son - ma Pete Lawrie yn dod o Benarth ac wedi ei arwyddo i Island Records. Oni'n rhyfeddu bo rhywun mor lleol wedi llwyddo cael dêl gyda cwmni recordiau mor llewyrchus a oni ddim yn gwbod amdano yn blaenorol. Felly dyma fi a grwp o ffrindiau yn fynychi'r gig i flasu cerddoriaeth artist dylen i wedi glywed o'r blaen. Y peth cynta' nes i sylwi - heblaw am y grwp es i i mewn gyda, doedd dim un wyneb adnabyddus 'na - a mae'n costio £9 ar y drws - pa gigs mae'r pobl yma'n fynychu'n arferol? Hmm.


Yn gyntaf oedd Tinashe. Mae gan y band yma egni sy'n heintus sy'n trawsnewid i'r gynulleidfa. Mae gan y blaen gwr dawn naturiol tuag at siarad a, a cyflogi'r gynulleidfa i ganu, clapio, dawnsio i'w cerddoriaeth. A mae'r gynulleidfa yn eithaf ymatebol iddo fe chwarae teg. Mae ganddo stori diddorol am ei hanes am ei fagwreth o Zimbabwe i Hackney yn Llundain Fowr. Er am y cerddoriaeth yelpy guitar pop, mae'n teimlo fel bo' rhaid i'r dorf yma ymdrechu i fwynhau. Mae'r caneuon yn eithaf poppy ond ma'r sectiwn rythm braidd yn wan a dim yn neud cyfiawnder i'r gŵr sy'n canu ac yn chwarae gitâr. Mae'n amlwg bod ganoddo talent, ond ma'r caenuon a'r ôl-band yn gwneud i mi golli diddordeb yn anffodus, hyd yn oed gyda ymdrechion gorau'r canwr i gael fi i glapio gyda'r curiad a gweiddu yn ystod y bylchau yn y cân. Roedd ardull y caneuon yn fy nghythruddo i rwyfaint - dim at fy chwant i, er bod y caneuon ar y tudalen myspace yn swnio llawer gwell. Efallai mai mwy o gigio sydd angen ar y band a falle mai dyna pam ma Island Life yn trefnu'r taith iddyn nhw. Fy hoff gan oedd Good Times - clywch : http://www.myspace.com/tinashemusic

Nesaf i gymryd i'r llwyfan oedd Laura Pritchard - er bo enw weddol Cymraeg da ddi - o Tenessee mae'n tarddu. Mae gan y band sain cyflawn a cydbwysedd dda rhwng yr offerynnau - cerddoriaeth lounge ac yn eithaf ymlaciedig. A ma llais Lauren yn bert ac yn bwrw llawer o nodiadau bydden i heb byth wedi dychmygu. Yr unig broblem oedd bod ei llais hi yn rhy uchel yn y mix - trueni mawr achos oedd e'n treiddio sain y band yn gyffredinol.

http://www.myspace.com/laurenpritchardmusic
http://www.laurenpritchard.com/

Am ryw rheswm, oni ddim yn disgwl hoffi cerddoriaeth Pete. Wrth gwrs mae gen i fel pawb arall meddwl agored at gerddoriaeth newydd - ond dwi'n eithaf fyddiog bod fi'di clywed pob band dwi'n hoffi o ardal Caerdydd. Ges i ddim fy synnu! Dyma Pete a'i guitar yn canu rhai o'i ganeuon a oedd llawer iawn o'r gynulleidfa (- oedd wedi tyfu i fod yn dorf eithaf niferus erbyn hyn) - yn rili mwynhau ei ganeuon. Oedd rhannau o'r dorf yn canu gyda - sy'n awgrymu bod ganddo dilyniant sylweddol; a mae ganddo ffordd dda o drin y gynulleidfa a'i ddefnyddio fel rhan o'r sioe. Allen i cymharu (yn ddiog) ei gerddoriaeth â Jack Johnson, Sting neu unrhyw canwr canol y ffordd; ma' pob fath o gerddoriaeth acwstic fel hyn wedi'i greu o'r blaen, i gynnal fy ddiddordeb i yn yr ardull yma ma rhaid bod rhywbeth unigryw neu wahanol, ond yn anffodus, wnes i ffeindio'r caneuon a'r cerddoriaeth yn diflas a di-dychymig. Wedi gweud hwnna', roedd dau uchafbwynt yn y set i fi. Yn helpu Pete Lawrie gyda'i ganu oedd llanc arall yn eistedd wrth e'i ochr yn chwarae ryw fath o set drymiau wedi'u greu o bocs pren. Oedd e'i lais e'n well nag un Pete siwrofod. Ond y gân orau o'r set oedd pan wnaeth y gitarydd o Tinashe ail ymuno a'r llwyfan i gymrud lle Pete ac i ganu gyda'r drymwr - a dyma dau seren y noson yn canu un cân hyfryd cyn i Pete dod nôl i ganu ei cerddoriaeth di-gymeriad am weddill y noswaith.

http://petelawrie.com/

No comments:

Post a Comment