Thursday 14 October 2010

Born in the Ruins of a Monday Morning, Alex Dingley

Born in the Ruins of a Monday Morning
Alex Dingley
Dyddiad rhyddhau : 18/10/2010

Mae gan Alex Dingley greddf naturiol tuag at alaw diollwng a caneuon pop clasurol - a fe ddaw'n amlwg trwy'i albym ddiweddaraf, "Born in the Ruins of a Monday Morning".  Mae ganddo arddull ymledol sy'n gwneud i'r gwrandwyr ysu i wrando ar y caneuon tro ar ôl tro i wrando ar y darnau clywsoch chi ddim y tro cynta' na'r ail dro.

Ma'r can cyntaf "Into the Blue" yn cyflwyno arddull yr albym fel carreg cam - o'r tawelwch sy'n rhagflaenu gwasgu'r botwm "Chwarae" ar y teclun MP3 a byd bach Alex a glywir trwy gydol gweddill yr albym.  Mae'r ail gan "When your Bones Shine Through" yn swnio fel yr cerddoriaeth rydyn ni wedi dod i arfer â oddi ar ei albym cyntaf.  Mae'n cario 'mlaen o'r albym cyntaf gyda'i sain gwyrdro-gitar, riffs fer syml yn ailadrodd a ambell i floedd yn sicrhau bod egni'r caneuon yn amlwg i'r wrandawyr.  Yna mae'r cân serch "Cats Eyes" - yn son am rhedeg i ffwrdd a treulio oes heddychlon gyda'i gariad.  Ma' digonedd o syniad-synnau ar y gan yn cynnwys gitarau, synthau, xylophone, gitar e-bow a hyd yn oed tegan effaith llais.  Ma'r caneuon nesa'n parhau i drosglwyddio'r gwrandawyr i byd dychmygol Alex (- wi'n mynd i dechrau'r term: Alex Dingleyland), a mae ol-llais swynol Swci Boscawen yn canmol gweddill y sain yn berffaith ac yn ychwanegu i'r byd dychmygol yma.

Ma sain yr allweddellau ar dechrau "Between the Devil and the Deep Blue Sea" yn swnio fel un o'r allweddellau rhad gwelwch chi ar werth am bunt mewn sêl cist car.  Mae'r agwedd home-made yma yn ychwanegu i'r swyn a'r lleisiau'n cydbwyso'n hudol cyn i'r arfluniad a'r allweddellau ail gydio'n y can.

Yna i'r can Lovely Day clywn ffidl a organ ceg dros ben y trawiad tylwyth a piano i greu can epig am hapusrwydd a a dawnsio.
Dyma'r ochr sensitif yn amlygu yn ystod y gan Matador - a dyma fe'n mentro i'r Gymraeg am foment yn ystod y cytgan.  Ma' fe'n swnio fel'se fe mo'yn canu cân cyfan yn ei iaith mabwysiedig, ond dyw e ddim yn digon hyderus, felly dyma fe'n yngan cwpl o eiriau Cymraeg cyn y cytgan.

Ma' grefft y caneuon mor gynhwysfawr, y dewis o offerynnau clasurol a'r cynnyrchu ar y record yn canmol y cerddoriaeth i'r dim.  Ma'r albym cyfan yn estyniad ar ei albym cyntaf "I Lost My Honey in the Grass".  Recordiwyd yr un cyntaf mewn bwthyn yn Llanberis, a'r ail mewn stiwdio yng Nghaerdydd a ma'r sain yn aeddfedu rywfaint wrth gwneud hynnu.  Ma'r caneuon ar yr albym yma yn fwy tywyll na'r un cyntaf.  Os allwch chi dychmygu - Billy Bragg yn symud i fyw i Efrog Newydd yn ystod y sin Avant Garde y chwedegau a wedyn mynd i fyw yn Seattle yn ystod sin Grunge y nawdegau, wedyn symud i ardal gwyllt o Gymru am sbel ( - na?).  Dyna beth ma cerddoriaeth Alex yn atgoffa fi o.  A ma'r albym yn gwneud i mi deimlo fel'se fi'n bwyta brechdan llawn cynhwysion organic o'r ardd gyda bara brown wedi'i bobi adref - mae'n blasus ac yn iachus a allwch chi teimlo'n hunangyfiawn achos bod chi'n gwrando ar caneuon ymledol am ei gonestrwydd glir : erbyn diwedd y arlbym, byddwch chi'n teimlo fel 'se chi'di dod i nabod Alex fel un o'ch ffrindiau gorau. 

Bydd albym "Built in the Ruins of a Monday Morning" ar werth ar 18fed o Hydref 2010 o Recordiau Spillers, Caerdydd a mwy.

http://www.kimberleyrecords.co.uk/alexdingley
http://www.myspace.com/alexdingley

No comments:

Post a Comment