Sunday 26 September 2010

19/19/2010 Vaselines, Haight-Ashbury, John Mouse : Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Vaselines, Haight-Ashbury, John Mouse
Clwb Ifor Bach
19/09/2010

Wrth ymchwilio'r Vaselines ar y wê ffeindiais i'r band yn perfformio mewn sawl gwahanol ffurf dros y blynyddoedd - a felly oni'm yn siwr beth i ddisgwl o'r gig 'ma. Yn wreiddiol oedd y gig i'w gynnal yn Neuadd Cerddoriaeth y Mileniwm ym mherfedd y Stadiwm y Mileniwm - ond fe wnaeth rhywun ail-leoli'r gig munud olaf i Clwb Ifor Bach - a diolch byth am hynny. Ma'r naws o weld band yn agos mewn gig llawn yn Clwb Ifor yn apelio lot mwy na'r gig cwarter llawn yn Neuadd Cerddoriaeth y Mileniwm.

Yn ogystal by rhywfaint o ddryswch ynglyn a amser dechrau'r gig a olygoedd mai dim ond pedwar cân olaf y band cyntaf nes i glywed. Ond wnaeth y pedwar cân clywais i gan John Mouse wneud i mi difaru dim cyrraedd yn gynt! Clywais i gân acwstig "Corney Island" - ynglyn a Corney Island a Trecco Bay - er mai o ardal y Rhondda ddaw John - mae ganddo straeon wedi'u ysbrydoli o bob cwr o De Cymru! Os nagyw geiriau'r caneuon yn ddigon i dod a gwên i'ch wyneb, mai'i berfformiad yn siwr o'ch diddanu. Mae gan ei ganeuon arddull roc gwledig, ond tra'n perfformio ar ben ei hun a'i gitar acwstig ma'r elfennau cerddoriaeth gwlad yn fwy blaengar - ond ei bersonoliaeth a'i delynnegau yw uchafbwynt ei berfformiad. Dyma fe'n cyflwyno'r cân nesaf fel fe'n canu carioci i gan ei hun. Wrth i'r cerddoriaeth dechrau ar ei luniadur dyma fe'n defnyddio y rhyddid a ddaw trwy dim defnyddio offeryn i fynegi ei hun trwy'r cyfrwng o... ymarfer corff! Yn rhedeg trwy'r gynulleidfa fel wallgofddyn yn naid serennu ac yn wneud press ups. Dyma fe'n mynd nol i'w gitar acwstig i ganu "If I Were an Oyster" ac yn gorffen ar gân carioci arall - "Got You Shaking Your Head (Like David Gray)". Mae ganddo albym newydd ar werth ar hyn o bryd a bydd e'n perfformio o amgylch Caerdydd yn fuan.

Enwyd yr ail band ar ôl ardal o San Fransisco a bu'n canolbwynt sin hipi-aidd yn y chwedegau - Haight-Ashbury - ond fel y Vaselines, o Glasgow ddaw y band. Oni heb clywed amdanynt o'r blaen, oni ddim hyd yn oed yn disgwl gweld band arall yn cefnogi ond wnes i synnu ar yr ochr orau. Oedd gosodiad y band yn diddorol o'r dechrau - res o gitarau unigryw wedi'i greu o flychau sigar, haner set o ddrymiau wedi'u osod yng nghanol y llwyfan a delwedd yr aelodau fel se nhw newydd cerdded i'r llwyfan o'r bumthegfed ganrif. Ma'r can yn dechrau gyda gitâr roc yn bloeddio o'r seinydd, drwm-tom yn cael ei frathu i darparu curiad syml a gitâr bass ar ochr arall y llwyfan. Dyma fi'n dechrau mwynhau'r sain roc syml pan ma'r lleisiau'n dechrau harmoneiddio ac yn gwbl-newid arddull y gan. Dyma'r sain fwyaf prydferth i fi glywed ers i'n fam canu hwiangerddi tra bo fi'n syrthio i gysgu pan oni'n blentyn. Ma' acenion a cyweirnod y lleisiau yn cytseinio'n berffaith ac yn cydbwyso gyda sain y gitâr roc. Ma'r band yn edrych ac yn swnio fel se nhw'n perthyn i'r ganol oesoedd gyda'i harmoni ysbrydol, a ma'r delwedd ysbrydol yn parhau rhwng y caneuon wrth i bob aelod fod yn gwbl dawel rhwng y caneuon; rhyfedd gan bo'r aelodau'n nabod ei gilydd ers oedran ifanc - brawd a chwaer a merch arall a bu'n ffrindiau ers eu magwreth. Fy hoff gan oedd Freeman Town a byddai'n siwr o weld rhain pan ddaw nhw nôl i Gaerdydd yn mis Tachwedd ar taith ei hunain pan ddaw ei albym nhw allan.



Erbyn i'r pump aelod o'r Vaseline's dod i'r llwyfan oedd llawr uchaf Clwb Ifor Bach yn llawn o bobl yn aros yn awchus. Y gân cyntaf oedd "Oliver Twisted" - gwrandawa'r gynulleidfa'n astud i bob nodyn yn ystod y gan a bloeddiwyd eu gwerthfawrogiad ar y diwedd. Y cân cyntaf adnabyddus oedd "Jesus Don't Want Me For a Sunbeam" a mae'n swnio'n wych. Er bo hi'n gân weddol syml ei strwythur ma ôl bod y band wedi bod yn chwarae'n fyw ers cyfnod achos mae'r cerddoriaeth mor pleserus i'r glust - fel hylif twym melys yn orchuddio'r corff; ac mae'r band yn wneud e edrych mor ddi-ymdrech. Mae gan y band yma ddau brif lleisydd, sef un bachgen a un merch. Yn ôl y sôn, roedden nhw'n cariadon pan wnaeth y band ffurfio'n wreiddiol - ac efallai bod sefyllfa eu perthynas yn un o'r rhesymmau bod y band heb chwarae ers ryw ugain mlynedd. Er hynny, ma'na cemeg rhyfeddol rhwng y ddau. Er bo nhw'n ymosod yn eithafol ar ei gilydd ar lafar - yn sôn am aelodau ei theulu, neu maint rhannau personol o'u gorff - oedd wastod gwên ar ei wynebau, a'r dorff yn chwerthin. Mae'n amlwg bod hen hanes rhyngddynt, ond mae'r ddou ohonyn nhw'n digon gartrefol a cwmni e'i gilydd erbyn hyn.

Wi'n difaru dim gwrando ar ei albym diweddaraf cyn mynd i'r gig achos doedden i ddim yn adnabod llawer o'i ganeuon. A chywilidd, rwy'n cyfaddef mod i o'r genhedlaeth sy'n adnabod caneuon y band yma o achos Kurt Cobain mwy nag unrhyw rheswm arall. Er hynny wnes i mwynhau'r set yn arw - yn enwedig "Sex with an X", "You Think You're a Man", "Molly's Lips" a "Son of a Gun". Oedd y gig fel dyfodiad i fi i glywed y caneuon oedd mor adnabyddus ers fy arddegau ac oni mor blês i fod mor agos i'r band yn chwarae ac i glywed nhw'n canu'r caneuon ac yn swnio mor wych.



Thursday 9 September 2010

04/09/2010 Sweet Baboo, Truckers of Husk : Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Shape/Function yn cyflwyno
Sweet Baboo, Truckers of Husk
Clwb Ifor Bach
04/09/2010

Oedd yna cyfnod pan allech chi weld y bandiau yma mwy neu lai unwaith bob wythnos yn chwarae yn un o'r lleoliadau ar draws dinas Caerdydd - ac yn wir mi rydw i wedi gweld y ddau grwp sawl gwaith yn y gorffenol.  Ond tro yma, ma pethau braidd yn wahanol.  Ma Truckers of Husk heb perfformio ers sbel - blwyddyn hyd yn oed - ac wedi newid ffurf y band i gynnwys aelod newydd.  A dyma lawnsiad albym Sweet Baboo.  Er bo Steve Baboo yn gallu rhoi sioe dda mlaen tra'n perfformio fel unigolyn, pan mae'n trefnu band llawn mae'r canlyniad yn allu bod yn anhygoel.  Felly pan daeth yr hysbyseb lan ar fy nhudalen rhwydwaith cymdeithasol, dyma fi'n anghofio fy nghynlluniau bras i fynd i'r Mardi Gras (y lleia' weda i am hwnna y gorau!) ac yn anelu'n syth am Clwb Ifor Bach.

Oedd y cynulleidfa'n llenwi'r llawr gwaelod cyn i un o'r bandiau hyd yn oed chwarae nodyn.  Parch i Shape/Function am drefnu a hybu'r noswaith.  Wrth i ToH pigo'i offerynnau i fyny dyma dylanwad yr aelod newydd (Kelson - gynt o Future of the Left) yn amlwg.  Bu sain tyn gyda'r band erioed, ond oedd elfen mwy trwm neu fwy o ergyd i'r cerddoriaeth heddiw nag yn yr orffennol.  Gyda'r gitar bas a'r drymiau wedi'u amseri a'u syncroneiddio'n berffaith fel 'se nhw'n dyrnu pob mymryn o aer yn yr ystafell pan yn cytseinio gyda'i gilydd pob pedwar curiad.  Er oedd hi'n annodd gweld y grwp o le on i'n sefyll, oedd caneuon fel "Awsome Tapes from Africa" a "Person for the Person" yn synion llawn, yn egniol, yn dyn ac yn gyrru'r cerddoriaeth mewn i'r corff yn ffisegol ac yn meddyliol.



Yna tro Sweet Baboo i ddod i'r llwyfan i chwarae caneuon oddi ar ei albym newydd yn egsliwsif.  Doedd y dorf dim yn adnabod un o'r caneuon eto ond pan oedd un o'r caneuon yn cyrraedd howdown a'r gitarydd (brawd Steve) yn chwarae un o'i soloau cerddoriaeth gwledig - roedd y dorf cyfan yn gorfod gwrando a symud rhannu o'u cyrff i'r curiad.  Oedd y basydd (ar fenthyg o'r Spencer McGarry Season) yn amlwg yn mwynhau wrth iddo fe dawnsio a jamm'r riffau bas.  Oedd ol ymarfer ar y band - er bod y caneuon i gyd yn newydd roedd y cemeg a'r cyfeillgarwch rhwng y band yn amlwg  i'w weld ar y llwyfan.  Ar ol chwarae traciau'r albym dyma'r band yn gadael y llwyfan ac yn ymateb i alwadau'r dorf i ddod nol i chwarae un o'r ffefrynnau oddi ar yr albym dwethaf "Hello Wave" o'r enw "If I'm Still in Love When I Get Home from Travelling" i dorf gwerthfawrogol.  Dyw swn caneuon y band heb newid yn fawr o ran arddull ers yr albym dwethaf ond mae gan Sweet Baboo dawn am grefftu caneuon o ansawdd ac gwneud iddyn nhw'n swnion braf ar lwyfan - a ni siomwyd heno.

03/09/2010 Neon Indian, Chad Valley, IDRchitecture : Stop the Bus, Bryste

No Need to Shout yn cyflwyno
Neon Indian, Chad Valley, IDRchitecture
Stop the Bus, Bryste
03/09/2010

Oni'n cyffrous cyrraedd y lleoliad yma am y tro cynta'.  Oni'di clywed straeon positif am y lle ac yn disgwl mlaen yn arw i weld y band oedd yn clasho 'da'r Flaming Lips yn Gwyl y Dyn gwyrdd, sef Neon Indian.  Ar ol cyrraedd a chwilio am y llwyfan oedd flin 'da fi gweld bo'r llwyfan yn un o'r rheina sy' ar waelod grisiau a'r gynulleidfa yn sefyll yn uwch na'r bandiau ac yn edrych lawr arnynt.  Ta waeth, i'r bar am ddiod ac yna canolbwyntio ar y cerddoriaeth.

Dyma IDRchitecture yn agor y sioe gyda'i synnau'n croesi ffiniau rhwng trefol a breddwydiol.  Dyma'r Nord synth a'r ol lleisydd yn daparu melodiau fel 'se'n nhw'n syrthio'n ysgafn o'r cymylau ond geiriau di-derfyn acennog y brif leisydd yn gwrthgyferbynnu yn awgrymu bod y band yn trial gwneud rhywbeth gwahanol - fel wedodd Huw Stephens (yn ol tudalen myspace y band)
    "Mae'n wahanol i bobeth arall sy' rownd ar y foment".  Fe wnes i eitha mwynhau'i set - ond dim dyma'r rheswm nes i groesi'r afon Hafren.



Fe wrandawais i ar Chad Valley cyn gadael y ty ac oni'di synnu ar yr ochr orau.  Oedd teimlad ymlaciedig i'r ganeuon ac yn neud y gwaed symud o fewn fy nghweithiennau.  Mae'n siwr bo'r BPM y peiriant dryms wedi tiwnio mewn a cyfradd curiad fy nghalon.  Unwaith daeth y gwr solo i'r llwyfan a dechrau'r peiriant dryms fe ddechreuoedd y teimlad eto a fi methu peidio a a tapio fy nhroed ar y llawr.  Dyw'r gwr ddim yn edrych yn nodweddiadol fel pop-star ond mae e'i ddefnydd e o lwpiau, ffilterau, synthiau a effeithiau ar ei lais yn digon i drawsnewid person i le pell i ffwrdd fel ma teitlau "Portuguese Solid Summer" a "Spanish Sahara" yn awgrymu.



Dyma fi'n dychwelyd i'r bar tra bo fi'n aros i'r brif band dechre a dyma fi'n gweld bachgen digon ryfedd ei olwg yn eistedd ar y soffa yn gaeth - yn syllu, gwenu, teipio - ar ei gyfrifiadur macafal, yn amlwg yn sgwrsio a'i ffrindiau.  Dyma fi'n pendronni pwy bydde'n dod i clwb nos brysur ar nos wener a neud a fath beth.  Gyda hwff o deipio a gwen mawr arall at y sgrin, dyma fe'n rhoi glep i glawr y gluniadur, yn codi ac yn sgathru tua'r llwyfan.  Boneddigion a boneddigesau - dyma Neon Indian.

Y sain cynta' ni'n clywed yw arpegiator o'r Juno, a'r lwp yn cyflymu ac yn arafu, y dryms yn clico mewn yn raddol a'r pop-synth yn dod a'r can cyfan at'i gilydd.  Dyma patrwm y noswaith o hyn ymlaen.  Roedd pob arweiniad a allweiniad yn cynnwys gwahanol casgliadau o sainweddau synth.  Dyma'r techneg yma yn rhoi naws electronig a cysondeb a patrwm i'r set.  Mae yna bedwar aelod yn y grwp, sef - y brif leisydd yn gyfrifol am y synnau atmosfferig rhwng y caneuon a ambell i offeryn arall fel peiriannau drymiau a theramin, yna'r drymara'r ferch ar y synthiau arall a ol lleisiau'n ymuno a bob pennill a cytgan, a'r gitarydd yn strymmo cordiau ac yn smasho solo mas ar mwy neu lai bob can.  Er oni'n son bod y arweiniau a'r allweiniau yn creu argraff o lun ar bapur - neu hyd yn oed model tri dimensiwn yn troellu ar sgrin cyfrifiadur - oedd rhan fwyaf o'r set yn creu delweddau yn fy mhen.  Oedd y synnau prydferth yn dod o'r ol-leisydd a'i synth yn cyfunio'n berffaith a'r effeithiau ar y gitar a'r brif llais yn creu cyfanwaith oedd bron yn arallfudol.  Chwaraeodd y band am ryw awr - a oedd y cetyn llawr-ddawnsio (a'r grisiau) yn llawn gyda'r cynulleidfa yn dawnsio ac yn mwynhau caneuon fel "I Should've Taken Acid with You", "Deadbeat Summer" a "Terminally Chill". 



Mae'n anodd gwbod faint o'r dorf daeth i weld y band a faint daeth i feddwi ar nos wener - ond wnaeth pawb a wnaeth aros sboi'r diwedd mwynhau'r cerddoriaeth electrotastig.  Dwi'n falch bo fi'di dod o hyd i'r lleoliad yma yn Bryste achos ges i'r fraint o weld y bandiau yma i gyd heno a wynhau'n fawar - ond yn ogystal weles i boster am Crystal Fighters yn hwyrach yn y mis - fe wna i'r siwrnau 'to bryd hynny wi'n siwr!