Sunday 26 September 2010

19/19/2010 Vaselines, Haight-Ashbury, John Mouse : Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Vaselines, Haight-Ashbury, John Mouse
Clwb Ifor Bach
19/09/2010

Wrth ymchwilio'r Vaselines ar y wê ffeindiais i'r band yn perfformio mewn sawl gwahanol ffurf dros y blynyddoedd - a felly oni'm yn siwr beth i ddisgwl o'r gig 'ma. Yn wreiddiol oedd y gig i'w gynnal yn Neuadd Cerddoriaeth y Mileniwm ym mherfedd y Stadiwm y Mileniwm - ond fe wnaeth rhywun ail-leoli'r gig munud olaf i Clwb Ifor Bach - a diolch byth am hynny. Ma'r naws o weld band yn agos mewn gig llawn yn Clwb Ifor yn apelio lot mwy na'r gig cwarter llawn yn Neuadd Cerddoriaeth y Mileniwm.

Yn ogystal by rhywfaint o ddryswch ynglyn a amser dechrau'r gig a olygoedd mai dim ond pedwar cân olaf y band cyntaf nes i glywed. Ond wnaeth y pedwar cân clywais i gan John Mouse wneud i mi difaru dim cyrraedd yn gynt! Clywais i gân acwstig "Corney Island" - ynglyn a Corney Island a Trecco Bay - er mai o ardal y Rhondda ddaw John - mae ganddo straeon wedi'u ysbrydoli o bob cwr o De Cymru! Os nagyw geiriau'r caneuon yn ddigon i dod a gwên i'ch wyneb, mai'i berfformiad yn siwr o'ch diddanu. Mae gan ei ganeuon arddull roc gwledig, ond tra'n perfformio ar ben ei hun a'i gitar acwstig ma'r elfennau cerddoriaeth gwlad yn fwy blaengar - ond ei bersonoliaeth a'i delynnegau yw uchafbwynt ei berfformiad. Dyma fe'n cyflwyno'r cân nesaf fel fe'n canu carioci i gan ei hun. Wrth i'r cerddoriaeth dechrau ar ei luniadur dyma fe'n defnyddio y rhyddid a ddaw trwy dim defnyddio offeryn i fynegi ei hun trwy'r cyfrwng o... ymarfer corff! Yn rhedeg trwy'r gynulleidfa fel wallgofddyn yn naid serennu ac yn wneud press ups. Dyma fe'n mynd nol i'w gitar acwstig i ganu "If I Were an Oyster" ac yn gorffen ar gân carioci arall - "Got You Shaking Your Head (Like David Gray)". Mae ganddo albym newydd ar werth ar hyn o bryd a bydd e'n perfformio o amgylch Caerdydd yn fuan.

Enwyd yr ail band ar ôl ardal o San Fransisco a bu'n canolbwynt sin hipi-aidd yn y chwedegau - Haight-Ashbury - ond fel y Vaselines, o Glasgow ddaw y band. Oni heb clywed amdanynt o'r blaen, oni ddim hyd yn oed yn disgwl gweld band arall yn cefnogi ond wnes i synnu ar yr ochr orau. Oedd gosodiad y band yn diddorol o'r dechrau - res o gitarau unigryw wedi'i greu o flychau sigar, haner set o ddrymiau wedi'u osod yng nghanol y llwyfan a delwedd yr aelodau fel se nhw newydd cerdded i'r llwyfan o'r bumthegfed ganrif. Ma'r can yn dechrau gyda gitâr roc yn bloeddio o'r seinydd, drwm-tom yn cael ei frathu i darparu curiad syml a gitâr bass ar ochr arall y llwyfan. Dyma fi'n dechrau mwynhau'r sain roc syml pan ma'r lleisiau'n dechrau harmoneiddio ac yn gwbl-newid arddull y gan. Dyma'r sain fwyaf prydferth i fi glywed ers i'n fam canu hwiangerddi tra bo fi'n syrthio i gysgu pan oni'n blentyn. Ma' acenion a cyweirnod y lleisiau yn cytseinio'n berffaith ac yn cydbwyso gyda sain y gitâr roc. Ma'r band yn edrych ac yn swnio fel se nhw'n perthyn i'r ganol oesoedd gyda'i harmoni ysbrydol, a ma'r delwedd ysbrydol yn parhau rhwng y caneuon wrth i bob aelod fod yn gwbl dawel rhwng y caneuon; rhyfedd gan bo'r aelodau'n nabod ei gilydd ers oedran ifanc - brawd a chwaer a merch arall a bu'n ffrindiau ers eu magwreth. Fy hoff gan oedd Freeman Town a byddai'n siwr o weld rhain pan ddaw nhw nôl i Gaerdydd yn mis Tachwedd ar taith ei hunain pan ddaw ei albym nhw allan.



Erbyn i'r pump aelod o'r Vaseline's dod i'r llwyfan oedd llawr uchaf Clwb Ifor Bach yn llawn o bobl yn aros yn awchus. Y gân cyntaf oedd "Oliver Twisted" - gwrandawa'r gynulleidfa'n astud i bob nodyn yn ystod y gan a bloeddiwyd eu gwerthfawrogiad ar y diwedd. Y cân cyntaf adnabyddus oedd "Jesus Don't Want Me For a Sunbeam" a mae'n swnio'n wych. Er bo hi'n gân weddol syml ei strwythur ma ôl bod y band wedi bod yn chwarae'n fyw ers cyfnod achos mae'r cerddoriaeth mor pleserus i'r glust - fel hylif twym melys yn orchuddio'r corff; ac mae'r band yn wneud e edrych mor ddi-ymdrech. Mae gan y band yma ddau brif lleisydd, sef un bachgen a un merch. Yn ôl y sôn, roedden nhw'n cariadon pan wnaeth y band ffurfio'n wreiddiol - ac efallai bod sefyllfa eu perthynas yn un o'r rhesymmau bod y band heb chwarae ers ryw ugain mlynedd. Er hynny, ma'na cemeg rhyfeddol rhwng y ddau. Er bo nhw'n ymosod yn eithafol ar ei gilydd ar lafar - yn sôn am aelodau ei theulu, neu maint rhannau personol o'u gorff - oedd wastod gwên ar ei wynebau, a'r dorff yn chwerthin. Mae'n amlwg bod hen hanes rhyngddynt, ond mae'r ddou ohonyn nhw'n digon gartrefol a cwmni e'i gilydd erbyn hyn.

Wi'n difaru dim gwrando ar ei albym diweddaraf cyn mynd i'r gig achos doedden i ddim yn adnabod llawer o'i ganeuon. A chywilidd, rwy'n cyfaddef mod i o'r genhedlaeth sy'n adnabod caneuon y band yma o achos Kurt Cobain mwy nag unrhyw rheswm arall. Er hynny wnes i mwynhau'r set yn arw - yn enwedig "Sex with an X", "You Think You're a Man", "Molly's Lips" a "Son of a Gun". Oedd y gig fel dyfodiad i fi i glywed y caneuon oedd mor adnabyddus ers fy arddegau ac oni mor blês i fod mor agos i'r band yn chwarae ac i glywed nhw'n canu'r caneuon ac yn swnio mor wych.



No comments:

Post a Comment